
Ein Cefndir
Cynhaliwyd Souled Out am y tro cyntaf yn Awst 2000 yng Ngholeg y Bala (Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru), gyda’r bwriad i annog ac arfogi cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i wasanaethu Eglwys Crist. Mae gwaith Souled Out wedi tyfu ers hynny.
Mae Souled Out wedi datblygu i fod yn rhwydwaith sy’n anelu at ddatblygu disgyblion ac arweinwyr i Gymru a thu hwnt.

Ein Gweledigaeth
Mae’r angen sydd yn yr Eglwys am genhedlaethau newydd o ddisgyblion ac arweinwyr Crist-debyg, ffyddlon a llawn gweledigaeth, yn amlwg.
Bwriad Souled Out yw ceisio ymateb i’r angen yma trwy gasglu, annog ac arfogi ieuenctid, myfyrwyr ac oedolion ifanc i wneud gwahaniaeth i’r Deyrnas yn eu cenhedlaeth.
Dros y blynyddoedd, rydym yn llawenhau bod y gwaith hwn wedi bendithio llawer, gyda nifer yn dod o hyd i gyfleoedd i wasanaethu Crist ledled Cymru a thu hwnt.
Ein gweledigaeth yw Cymru dan ddylanwad yr Efengyl, gyda phobl yn dyheu am weld yr Eglwys yn cael ei diwygio yn yr 21ain Ganrif.

Ein Gwerthoedd
Mae Duw wedi siarad â ni drwy ei Fab Iesu, a’i lyfr, y Beibl. Yr ydym yn ymddiried yn Iesu, yn dysgu’r Beibl, gan geisio gwneud ewyllys Duw.
Mae Duw yn galw ar bawb i gael eu hachub o’u pechodau drwy farwolaeth Iesu ar y groes. Rydym ni’n cyhoeddi hyn ac o’i glywed, mae llawer yn credu geiriau Duw, ac yn dod i berthynas iawn ag Ef.
Dymuniad Duw yw bod pobl yn mwynhau perthynas ag Ef. Felly mae ein haddoliad yn fywiog, yn berthnasol ac yn llawn o’r Ysbryd Glân. Fel ieuenctid ac oedolion ifanc disgwyliwn glywed llais Duw, a chaiff Souled Out ei arwain gan yr hyn y mae Ef yn ei ddweud.
Cenhadaeth Duw sy’n cyfrif a’r hyn sy’n cyfrif go iawn yw cael bod yn gyd-weithwyr yn ei genhadaeth Ef.