ARFOGI 23
TACHWEDD 17-19 | COLEG Y BALA
THEMA: TROI’R BYD BEN I WAERED
Cyfrannwyr: Gareth Lloyd, Andy Ollerton, Nan Powell Davies, Gwennan Williams a pre-records gan Simon Guillebaud, Liz Ollerton a Gwil ac Alice Jeffs
Mae ARFOGI yn ddigwyddiad blynyddol i oedolion ifanc o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae croeso i fyfyrwyr, teuluoedd ifanc ac unrhyw un yn eu 20au a 30au!
Wrth i ni ddod at ein gilydd eto i addoli, gwrando ar Air Duw a mwynhau cymdeithas gynnes, ein gweddi yw y cawn ein trawsnewid yn Ei bresenoldeb ac y byddwn yn gadael ARFOGI 23 wedi ein hannog i fyw yn llwyr i’r Arglwydd; wedi ein harfogi i chwarae ein rhan a gyda disgwyliad newydd i weld Duw yn symud yn nerthol yn ein cymunedau, cenedl a’n byd.
Pris y penwythnos cyfan yw £65 ac yn cynnwys bwyd a 2 noson o lety yn Coleg y Bala neu Bryn y Groes. £25 yw’r pris os yn dod am y dydd Sadwrn yn unig. Mae croeso hefyd i bobl wneud trefniadau llety eu hunain.
Os oes digon o ddiddordeb, bydd bws mini yn cael ei drefnu gyda man codi a gollwng yng Nghaerdydd. Bydd gofal plant hefyd ar gael.
Ffurflen Gofrestru ARFOGI 23