buy steroids in uk

steroids uk

Haf

Ni methu aros i’r 5 diwrnod gwych yma i ieuenctid (15+), myfyrwyr ac oedolion ifanc!

Mae SOULED OUT yn gyfle grêt ar ddiwedd yr haf i ddal fyny gyda hen ffrindiau, cwrdd â phobl newydd a mwynhau lôds o weithgareddau hwyl! Mae’r prif sesiynau bob amser yn uchafbwynt SOULED OUT, wrth i ni addoli Duw a dysgu mwy amdano wrth wrando ar sgyrsiau o’r Beibl. Bydd rhai seminarau ymarferol yn ystod yr wythnos fyd i’n harfogi a’n hysbrydoli, a grwpiau bach i’n helpu i feddwl trwy’r hyn ni’n clywed.

Bydd llwyth o bethau hwyl i bawb wneud fyd! Dros y blynyddoedd, ni ’di mwynhau inflatables mawr, caffi acwstig, gemau pêl-droed, crefftau creadigol, stand-up paddle boardings’mores rownd y tân a mwy! Felly bydd digon o bethau i fwynhau eto eleni!

I’r rhai sy’n teithio o’r De neu o Ganolbarth Cymru, ac os oes digon o ddiddordeb, bydd bws mini yn cael ei drefnu am gost fach o £12 (£6 bob ffordd). Bydd gofal plant hefyd ar gael bob bore.

LLETY: Bydd pawb dan 18 oed yn aros yn Coleg y Bala, gyda’r mwyafrif dros 18 yn aros mewn Canolfan cyfagos.

COST: £128 – Mae’r pris yn cynnwys y digwyddiad, bwyd, gweithgareddau a 5 noson o lety. (Os ydych am wneud trefniadau llety eich hun, neu am ddod am y dydd, cysylltwch â Coleg y Bala ynglyn â’r gost o ddod i SOULED OUT.)

Peidiwch â cholli allan! Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â ni am haf i’w gofio yn SOULED OUT 23!

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube