buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

ADUNIAD SOULED OUT gan Ria

Braf oedd cael dod yn ôl i’r Bala i gwrdd â hen ffrindiau a chael cyfarfod rhai newydd. Rwyf wedi bod mewn sawl Aduniad Souled Out erbyn hyn ac roedd hi’n benwythnos gwych arall gyda llawer o hwyl i’w gael. Thema’r penwythnos oedd ‘Bywyd ar ei Orau’. Roedd y sesiynau gyda’r prif siaradwyr yn heriol ond yn berthnasol wrth i ni gyd feddwl am sut rydym yn byw ein bywydau pob dydd. Hefyd, roedd y sesiynau yn rhai oedd yn herio ni i fyw yn fwriadol i Iesu a’i gynrychioli ef yn ein bywydau pob dydd, wrth i bawb fynd yn ôl adre i’w cymunedau o amgylch Cymru. Un o uchafbwyntiau’r penwythnos oedd y grwpiau bach a’r seminarau. Roedd yn dda cael trafod y pregethau ac ymateb i’r sesiynau heb ddim pwysau, gyda phawb yn agored am beth roeddem wedi dysgu. Roedd hwyl i gael trwy gydol y penwythnos hefyd gyda llawer o weithgareddau ar gael mewn cyfnod byr. Roedd yna gyfle i gymryd rhan mewn cwis, amser i wneud crefft, chwarae pêl droed a chael bwyd yn Caffi’r Coleg. Hefyd, roedd yna ddisgo tawel gyda phaent UV ac roedd hyn yn uchafbwynt mawr i lawer gyda’r cyfle i gael slushie yr un pryd – (gobeithio bydd y slushie’s yn ôl yn Souled Out yr Haf!) Cefais i fy mendithio yn Aduniad Souled Out ac rwyf yn edrych ymlaen yn arw at y tro nesaf. Os ydych yn cael y cyfle i ddod i’r Aduniad neu unrhyw ddigwyddiad arall Souled Out drwy’r flwyddyn, mae’n gyfle gwych i greu ffrindiau newydd a dod i adnabod Iesu’n well; fyswn i’n annog unrhyw un i ddod!

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube