buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

Amy

Roedd Aduniad Souled Out yn wirioneddol anhygoel! Ein thema oedd ‘Ar y Graig’ ac yn sicr roeddwn i’n teimlo’r thema hynny’n amlwg drwy gydol y penwythnos. Roedd y sgyrsiau ar gariad diamod Duw tuag atom a sut y gallwn ymddiried yn llwyr ynddo yn bendant yn rhywbeth yr oeddwn angen ei glywed bryd hynny. Mae bob amser yn braf iawn mynd i benwythnos Souled Out a theimlo mor agos at Dduw a dychwelyd adref yn teimlo wedi’ch nerthu gan yr Ysbryd Glân.

Fy hoff ran o Souled Out bob amser yw’r addoliad, ond yn enwedig yr amser y cawn gyfle i ganu, gweddïo a siarad â’n gilydd – penwythnos yma, fe enwyd yn briodol iawn yn ‘Dyfnach’. Roedd yr awyrgylch yn fendigedig – roeddwn i’n teimlo y gallwn ymddiried yn unrhyw un a ddaeth i siarad â mi, heb sôn am yr anogaeth a gefais gan gymaint o bobl. Er gwaethaf y ffaith i mi dreulio’r rhan fwyaf o’r noson yn emosiynol oherwydd cefais fy nghyffwrdd, bydd yn sicr yn parhau i fod yn atgof annwyl. Roedd y bobl wnes i gyfarfod yn Souled Out yn wirioneddol werthfawr ac ni allaf aros i gwrdd â nhw eto mewn aduniadau yn y dyfodol! Efallai yr hoffech chi (pwy bynnag sy’n darllen neu’n gwrando ar hwn ar hyn o bryd) ddod draw rhywbryd ac os felly, edrychaf ymlaen at gwrdd â chi!

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube