buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

ARFOGI 19 gan Lewis

Braint fawr oedd gallu dod i Coleg y Bala i benwythnos ARFOGI, i gael ein dysgu o’r Beibl a’n annog i gyrraedd ein cenedl i Grist. Canolbwynt y penwythnos oedd Eseia 6, ac yn benodol y thema o gael ein galw gan Dduw, i fyw bywydau a fydd yn cael effaith ar Gymru hefo’r efengyl. Mae Eseia yn ymateb i Dduw gyda’r geiriau, ‘Dyma fi; anfon fi’- a’r her yw i ni ymateb yn yr un ffordd.

Cyrhaeddom ni nos Wener a chael amser i sgwrsio a gweld ffrindiau dros baned cyn ein sesiwn gyntaf lle buom ni’n moli Duw a chwrdd â phrif siaradwyr y penwythnos. Braf oedd gallu clywed mwy am eu hanesion a sut mae nhw wedi gweithredu trwy ffydd ac ufudd-dod i orchymyn mawr yr Arglwydd Iesu i fynd allan i wneud disgyblion o’r holl genhedloedd. Yna agorodd Owain Edwards Eseia 6 hefo ni ac edrych ar alwedigaeth Eseia a’r modd a wnaeth Duw ei olchi o’i bechod ac yna danfon e allan fel proffwyd. Roedd nos Wener yn braf i allu cyflwyno’r penwythnos i Dduw a gweddïo y byddem yn cael ein heffeithio a’n annog i fynd ymaith erbyn diwedd y penwythnos wedi ein harfogi.

Clywsom bregethau arbennig trwy gydol y penwythnos; pregethau oedd yn heriol ond hefyd yn anogaeth fawr o ran mawredd ein Duw a’r ffaith fod e’n fraint anhygoel i’w adnabod Ef yn bersonol, a hefyd i allu gwasanaethu Duw a rhannu’r newyddion da gydag eraill.

Yn bersonol, un o uchafbwyntiau’r penwythnos oedd gweddïo dros Gymru ar y nos Sadwrn. Roedd hyn yn dilyn pregeth Andy Ollerton ar Luc 10, ble mae Iesu yn sôn wrth y disgyblion bod y cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin. Cyfle gwych oedd hyn i gyflwyno pob dim i Dduw a gofyn iddo ddarparu gweithwyr i’r mannau ble nad oes yna dystiolaeth i’r efengyl ar hyn o bryd.

Roedd e’n hynod o werthfawr gallu treulio amser mewn grwpiau bach hefyd ar hyd y penwythnos. Roedd y cyfnodau yma yn gyfle i fod yn agored hefo’n gilydd a chyfle da i weddïo am y pethau a glywsom. Mor braf hefyd oedd gallu treulio amser hefo pawb, yn enwedig gan fod rhan fwyaf ohonom ni’n byw ym mhob cwr o’r wlad ac felly prin yn cael cyfle i weld ein gilydd ar hyd y flwyddyn.

Dwi mor ddiolchgar i Dduw am benwythnos ARFOGI ac i bawb yn Coleg y Bala a wnaeth drefnu pob dim. Dwi’n edrych ymlaen i weld ein Duw ar waith yng Nghymru; yn dod a llawer i mewn i’w Deyrnas i brofi bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist.

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube