buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

Beca

Byddwn wrth fy modd yn rhannu rhai o fy uchafbwyntiau o fynychu Souled Out yr haf hwn – sef digwyddiad pum diwrnod yng Ngholeg y Bala, sy’n llawn gweithgareddau cyffrous, cyfleoedd i addoli ar y cyd a thyfu perthynas agosach i Dduw.

Y thema eleni oedd ‘Rhyddid’, a gyffyrddodd ar sut mae Duw wedi ein rhyddhau trwy rodd ei Fab Iesu Grist. Roedd y Souled Out hwn yn arbennig o bwysig eleni gan iddo lanio wythnos cyn fy medydd. Rhoddodd y cyfle i mi dyfu yn agosach at Dduw cyn fy medydd a rhoi’r wythnos i fyfyrio a diolch iddo am y gwaith yr oedd wedi’i wneud ynof fi ers rhoi fy mywyd i Grist. Mae Souled Out hefyd wedi rhoi lle diogel i mi gael hwyl gyda ffrindiau, gofyn cwestiynau am fy ffydd a theimlo croeso gan bawb!

Un o fy uchafbwyntiau personol o’r wythnos oedd gallu dod â fy ffrind, a gweld hi’n tyfu mewn ffydd. Roedd gweld ei hyder yn tyfu wrth gael ei chroesawu cymaint gan gymuned Souled Out yn anhygoel! Roedd gweld sut yr oedd Duw yn gweithio ynddi trwy gydol yr wythnos ynghyd â llawer mwy o unigolion yn wirioneddol ysbrydoledig. Yn ogystal â hyn, roedd clywed tystiolaethau a phrofiadau personol unigolion ar sut mae Duw wedi siapio eu bywydau, yn atgoffa fi o sut y gall Duw wir newid bywydau.

Addoli gyda’n gilydd yw fy hoff ran am Souled Out. Mae’r awyrgylch yn hollol anhygoel, ac mae’r gallu i addoli gyda’n gilydd yn rhydd, yn creu profiad annisgrifiadwy. Mae Souled Out yn cynnig y cyfle i foli Duw gyda phobl eraill sydd hefyd yn caru addoli Duw. Yr oedd Duw yn bendant yn bresenol yn yr addoliad, yn gweithio trwy bobl ac yn rhoi profiad bythgofiadwy i bawb, yn enwedig yn y sesiwn ar ôl oriau ‘Dyfnach’ sef cyfle arbennig i dreulio mwy o amser yn addoli Duw.

Roedd y sesiynau yn uchafbwynt arall ac yn gyfle i blymio’n ddyfnach i’r thema ‘Rhyddid’, lle roedd y siaradwyr yn gallu egluro’r thema o’r Beibl gan ddefnyddio gwahanol brofiadau a heriau o fewn ein bywydau bob dydd. Yn bersonol, cefais fudd mawr o’r grwpiau bach a gynhaliwyd ar ôl y brif sgyrsiau, i drafod y cwestiynau a’r pynciau a godwyd gan y siaradwr. Rhoddodd gyfle hefyd i mi ofyn cwestiynau pan nad oeddwn yn deall rhywbeth.

Uchafbwynt arall yr wythnos oedd y gwahanol weithgareddau hwyl! Roedd yn rhoi’r cyfle i mi ddod i adnabod y bobl newydd oedd wedi dod am y tro cyntaf a chwarae gemau gyda fy ffrindiau eraill. Roedd gwahanol opsiynau ar gael hefyd megis un prynhawn lle’r oedd cyfle i naill ai chwarae yn y gêm bêl-droed Souled Out flynyddol neu gael prynhawn mewn caffi lleol yn gwneud gweithgareddau crefft. Trwy gydol yr wythnos buom yn ymweld â pharc trampolîn, bowlio deg, cael ‘hog roast’ a dawnsio yn disgo blynyddol Souled Out gyda mefus siocled i enwi dim ond rhai pethau!

Roedd gallu profi sut roedd Duw yn symud mewn bywydau unigolion yn Souled Out yn wir fendith. Roedd gwylio pobl yn cael eu rhyddhau a dysgu bod aberth Iesu wedi ein rhyddhau o bob pechod a’r angen i gymharu yn erbyn pobl eraill, yn anhygoel. Wnes i ddysgu bod Duw yn ein caru ni i gyd yn gyfartal a bod neb yn well neu’n waeth; ni’n bobl rydd ac wedi ein caru gan Dduw.

Ers dod i Souled Out, mae fy mywyd wedi newid yn llwyr! Rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes a dyma hefyd y lle ble rhoddais fy mywyd yn llawn i Iesu. Mae gallu dod yn ôl bob blwyddyn yn wir fendith yn enwedig eleni cyn i mi gael fy medyddio! Mae Souled Out wedi bod yn hanfodol i dyfiant a dyfnder fy ffydd, ynghyd â rhoi rhai o’r atgofion gorau i mi a ffrindiau oes sy’n fy nghefnogi trwy fy mywyd Cristnogol. Mae Souled Out yn rhoi’r cyfle i chi herio’ch ffydd, cael hwyl gyda phobl anhygoel ac yn rhoi atebion i unrhyw gwestiynau. Byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn dod i brofi 5 diwrnod gorau’r haf! Mae’n rhy dda i golli allan, felly Souled Out 2024 amdani!!

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube