
BYW A DWEUD gan Caroline
Yn ddiweddar, mynychais i ddiwrnod ‘Byw a Dweud’ gyda fy ffrind Abbie. Pwrpas y diwrnod oedd annog ac arfogi’r rhai oedd yn bresennol i fyw eu ffydd o ddydd i ddydd a dweud wrth ein ffrindiau am Iesu mewn ffordd normal ac effeithiol. Roeddwn wedi bod mewn digwyddiad Souled Out o’r blaen ond doedd Abbie heb fod, felly roedd hyn yn brofiad eithaf newydd i’r ddwy ohonom.
Roedd pawb mor groesawgar ac fe gawsom ddiwrnod gwych yn dal i fyny gyda hen ffrindiau a chyfarfod pobl newydd. Wrth gwrs roedd yr addoliad, y cinio blasus a’r bwrdd ‘pick and mix’ yn grêt, ond y prif reswm dros fod yno oedd y sgyrsiau, ac ni chawson ein siomi.
Soniodd Mike Adams am 5 egwyddor a 5 agwedd y gallwn eu defnyddio i rannu am Iesu gyda’n ffrindiau sy’ ddim yn Gristnogion eto. Roedd Dai Hankey yn wych – yn llawn egni ac ysbrydoliaeth fel arfer. Ond i mi uchafbwynt y diwrnod oedd seminar Chloe Richards am y cwrs Alffa. Doedd dim syniad gen i fod y cwrs Alffa wedi ei ail-wneud ar ffurf gyfoes ac ar gael am ddim ar YouTube. Dangosodd Chloe rai clipiau ac fe gefais i’n synnu o’r ochr orau cystal oedd y cynnwys . Dywedodd hefyd pa mor hyblyg oedd y gyfres gyda straeon am bobl yn ei ddefnyddio dim ond am funud neu ddwy gyda’u clwb chwaraeon lleol neu mewn bore coffi.
Fe ysbrydolwyd Abbie a finnau i edrych eto ar Alffa fel adnodd, ac er mwyn gweithredu’r hyn a glywsom yn Byw a Dweud, rydym yn bwriadu ei gyflwyno yn ein Gofalaeth yr Hydref hwn.