buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

BYW A DWEUD gan Morgan

Yng nghwmni Michael Ots daeth oddeutu cant ohonom i Eglwys Crist, Y Bala i dderbyn hyfforddiant yn ogystal ag i gael ein herio i efengylu yn ein cylchoedd ein hunain – ein hysgolion, coleg neu waith. Wrth ddarllen Ioan 20: 19-23 cawsom ein gwahodd i ddilyn ôl traed Iesu ac i barhau ei waith wedi ei ddyrchafael.

Yn ystod y dydd cawsom sgyrsiau ynglŷn â sut ddaeth Iesu i lawr i’r byd i rannu’r efengyl: rhai o’r geiriau a glywsom oedd “Purposefully, Personally, Peacefully a Powerfully”. Dysgom ni i fynd allan yn fwriadol ac yn llawn hyder yn Nuw gan Ei fod yn rhoi’r gallu i ni siarad yn glir gyda’n cyfeillion neu hyd yn oed efo pobl cwbl ddiethr i ni. Roedd Michael yn pwysleisio yn aml mai Duw oedd yn rhoi’r hyder yma i ni, ac mae un frawddeg yn aros yn y cof: “I can’t, He can, I can through Him”.

Y peth pwysicaf er mwyn efengylu yn ôl Michael Ots ydi gwneud yn siwr mai cyfeillgarwch gyda’r unigolyn sydd flaenaf yn ein meddwl. Yn un peth mae’n ein galluogi i ddod i adnabod yr unigolyn, ond yn ail mae’n adlewyrchu mai perthynas yw Cristnogaeth ac nid dilyn rheolau penodol. Cawsom ein hannog i geisio cyrraedd ein ffrindiau yn ogystal â rhai na fuasem wedi meddwl eu cyrraedd o’r blaen. Roedd yn wych clywed hanesion o’i deithiau ar hyd a lled Ewrop wrth iddo siarad mewn cyfarfodydd dros ginio ac mewn sgyrsiau yn ystod wythnosau efengylu ac wythnosau’r glas mewn Prifysgolion.

Yn y pnawn daeth cyfle i drafod cwestiynnau, o’r rhai hawdd i’w hateb i’r rhai sy’n peri gofid mawr i’r Cristion cyffredin. Daeth cyfle wedyn i ni ofyn y cwestiynnau hyn i Michael a gweld sut fyddai Cristion sydd yn ateb cwestiynnau heriol fel bywoliaeth yn ymdopi gyda cwestiynnau mawr bywyd.

Y neges cryfaf i mi o hyfforddiant Dydd Sadwrn, Hydref 15fed, oedd i fod yn sensitif i deimladau a syniadaeth unigolion : “Feel where the other person is at”. Hynny yw, gofyn cwestiynau i ddod i adnabod y person, ac yna, gan fod yr efengyl yn gyffredin i bob sefyllfa a chymdeithas, mae’n haws i’w gwneud yn hygyrch i’r unigolyn.

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube