buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

Hannah

O’r diwedd, ar ôl blwyddyn o wneud ARFOGI ar-lein, daeth y penwythnos cyntaf nôl wyneb yn wyneb yn Coleg y Bala, ac am benwythnos i gofio! Roedd cyffro a disgwyliad dros y penwythnos wrth i ni dreulio amser yn dal lan gyda’n gilydd, yn rhannu gyda’n gilydd am sut mae Duw ar waith ynom ni ac yn ein gwlad ni, gyda’r ffocws ar ein thema, ‘Gweddi sy’n newid cenedl’.

Cychwynodd y penwythnos ar y nos Wener a chawsom amser i weld ffrindiau hen a newydd a dal lan ar ôl cyfnod rhyfedd, dros baned a pastries cyn dod at ein gilydd ar gyfer y sesiwn gyntaf. Dechreuon ni trwy edrych ar air Duw gyda Steff Morris, oedd wedyn yn ein harwain mewn addoliad. Buom yn treulio amser yn addoli Duw ac roedd e’n amser bendithiol iawn wrth i ni ddod â’n hunain i Dduw a’n cyflwyno’n hunain iddo ar ddechrau’r penwythnos. Wedyn buom yn gwylio cyfweliad gyda Dave a Karen Smith o eglwys Kingsgate yn Peterborough. Roedd yn wych i glywed eu profiadau nhw dros y blynyddoedd a sut mae gweddi wedi bod yn rhan anatod o’u siwrne yn unigol ac fel eglwys. Gorffennodd y noson gyda bagels nôl yn y Coleg ag amser i barhau i ddal lan gyda ffrindiau a siarad dros yr hyn roedden ni wedi clywed yn y sesiwn gyntaf.

Fe wnaethom ddeffro bore Sadwrn i Goleg oer a thywyll oherwydd power cut yn ystod y nos!! A dim jyst y Coleg oedd heb drydan ond hanner Bala! Ond, er yr amgylchiadau annisgwyl, a gyda diolch i grîw Coleg y Bala, roedden ni dal yn gallu parhau yn ein hamser gyda’n gilydd ac roedd e’n atgoffa amserol mai’r cyfan mae Duw ei eisiau yw ni, sut bynnag ydyn ni. Cawsom sesiynau gydag Andy Ollerton a Lydia Power, grwpiau bach, ac amser o addoliad a gweddi dros ein gilydd a’n cenedl ar ddiwedd y diwrnod.

Roedd llawer o uchafbwyntiau dros y penwythnos ond un o’r mwyaf i mi oedd y sesiynau gan Andy a Lydia. Rhannodd Andy gyda ni am weddi gyda golwg penodol ar Actau 4, a’r arferion o weddi gan y disgyblion ’da ni’n gweld, gyda’r pwyslais bod ‘gweddi sy’n newid cenedl’ yn dechrau gyda Duw yn troi ei bobl i weddïo. Wedyn clywsom wrth Lydia Power am ‘ffydd ffres’. Roedd Lydia wedi’n hannog a’n herio i beidio ildio yn ein gweddïau, ond yn lle: “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor.” Luc 11:9

Roedd y penwythnos yn un i’w gofio am lawer o resymau! Ond dwi’n ddiolchgar iawn i Dduw am ddatgelu ei hun i ni trwy bob un rhan o’r penwythnos, a dwi’n edrych ymlaen yn barod i’r penwythnos nesaf i allu gweld sut mae Duw wedi parhau i weithio ynom ni, trwom ni ac yn ein cenedl trwy weddi, yn arwain ymlaen o ARFOGI 21.

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube