buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

Joseff

Newid Llwyr oedd ein thema yn Souled Out 22, ac yn wir cawsom brofiad hollol drawsnewidiol! Yn dilyn tair blynedd o ddisgwyl, mi roedd Souled Out yn ôl yng Ngholeg y Bala, ac mi roedd yn wir werth yr aros!

Siwmai bawb! Joseff Griffiths ydw i, bachgen o Lanuwchllyn ger y Bala, sydd yma i rannu ychydig am yr amser anhygoel gefais yn Souled Out haf yma yng Ngholeg y Bala. Cynhadledd Gristnogol groesawgar pum diwrnod ydyw, yn gorlifo o bobl ffeind, dysgeidiaeth dda a gweithgareddau hwyl. Teimlaf fod fy ffydd, rhywbeth pwysig i mi, wedi ei annog a’i nerthu yn sgil yr wythnos hefyd.

Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd y mawl ac addoli. Mor braf oedd addoli Duw gyda’n gilydd yn ystod y prif sesiynau. Flwyddyn yma rwyf wedi profi pa mor nerthol yw mawl, ac felly doedd dim byd gwell nag addoli, os oeddech awydd, ein Harglwydd gyda’n gilydd a phrofi ei bresenoldeb cynnes.

Hefyd rhywbeth arall bendigedig oedd y gymuned o bobl oedd yna. Er yr amrywiaeth eang mi roedd yna awyrgylch mor gartrefol a ffeind. Bendith tu hwnt oedd gweld hen ffrindiau a gwneud rhai newydd hefyd. Bu sawl sgwrs galonogol dros baned, wrth gynhesu marshmallows ger y tân ac yn ein grwpiau bach. A goruwch bob dim, pleser ac anogaeth enfawr oedd gweld Duw ar waith ym mywydau pobl eraill o wahanol oed a chefndir hefyd.

Peth arall gwych oedd y dysgeidiaethau cyfoes ac ymarferol. Drwy lu o wahanol bobl, edrychom ar bynciau fel ein meddylfryd, doniau ysbrydol a chyfathrebu effeithiol. Neges glir gan Dduw trwy’r wythnos oedd ei gariad rhyfeddol a’i ffyddlondeb tuag atom, sut mae o am ollwng ni’n rhydd o’r pethau yna sy’n dal ni’n ôl a’n trawsffurfio ni’n llwyr i fod yn fwy a fwy fel y person anhygoel mae wedi dylunio ni’n ofalus i fod! Negeseuon priodol a thrawsnewidiol ar gyfer gweddill ein bywyd.

Ac wrth gwrs, mi roedd Souled Out yn jam-packed efo hwyl a sbri! Cefais amser gwych yn y gêm fawr o bêl droed, yn bownsio ar inflatables, yn mwynhau hufen iâ blasus yn yr haul, dawnsio ar y llawr disgo, neidio o gwmpas yn Flip Out yng Nghaer a mwy!

Ers dechrau dod i Souled Out, rwyf wastad yn edrych nôl ar yr wythnos fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn, ble brofais gariad ac agosatrwydd Duw, cymuned mor gynnes o bobl ac atgofion melys o hwyl yn yr haf, a dyma Souled Out haf yma yn goresgyn fy ngobeithion. Wedi fy annog a’m harfogi ar gyfer fy nghamau nesaf, rwy’n edrych ymlaen at Souled Out 2023 yn barod ac yn annog chi neu eraill rydych chi’n nabod, i ddod: mae’n gyfle trawsnewidiol, hwyl a rhy dda i’w fethu!

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube