
Gwennan
Wrth edrych yn ôl ar 20 mlynedd o Souled Out, mae ’na gymaint o bethau yn sefyll allan i mi a chymaint i fod yn ddiolchgar i Dduw amdano. 16 oed oeddwn i yn y Souled Out cyntaf un yn y flwyddyn 2000. Newydd wneud arholiadau TGAU ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at y dyfodol. Ond doedd Duw ddim yn fy nghynllun i. Doeddwn i ddim yn ’nabod Duw. Yn ystod y bythefnos yng Ngholeg y Bala yn y Souled Out cyntaf, fe gyffyrddodd Duw â fy nghalon i. Gwelais o’r newydd beth oedd Duw wedi gwneud trwy Iesu ar y groes ac roedd rhaid i mi ymateb. Felly yn ystod y Souled Out cyntaf fe roddais fy nghalon yn llwyr i Dduw, gan ofyn iddo faddau i mi am feddwl mod i’n gallu byw hebddo a’i hepgor o fy nghynllun i. Gofynnais iddo lywio gweddill fy mywyd i. “Yr Alffa a’r Omega” oedd un o themau cyntaf Souled Out a dwi’n siwr bod y t-shirt gyda’r symbolau rheiny’n dal gen i yn rhywle! Iesu yw’r “Dechrau a’r Diwedd” ac wrth edrych yn ôl, dwi’n gweld yn glir sut mae wedi brwydro’n ddiddiwedd drosdo i o’r cychwyn cyntaf hyd heddiw, 20 mlynedd yn ddiweddarach. Dyw’r daith heb fod yn un hawdd o gwbl. Mae bywyd wedi bod yn anesmwyth ac yn boenus; yn dywyll ac yn anobeithiol ar adegau, ond mae Duw yn gwbl ffyddlon. Er bod fy amgylchiadau i wedi newid, dyw Duw heb newid o gwbl. Yr un ddoe, heddiw ac am byth. Mae wedi fy nghadw i yn agos ato ac wedi bod yn oleuni ac yn obaith yn y dyddiau mwyaf tywyll.
Roeddwn yn edrych ymlaen cymaint i gael moli yr Arglwydd am ei gariad a’i ffyddlondeb tuag ata i ac eraill, yn y Bala yn ystod Souled Out 20, ond doedd hynny ddim i fod. Roedd Covid-19 wedi rhoi stop ar y cynllun hwnnw. Ond doedd dim angen anobeithio’n llwyr! Roedd Duw yn dal ar waith. Trwy wyrthiau technoleg cawsom gyfle anhygoel i gael dod at ein gilydd mewn ffordd wahanol ‘ar-lein’ am ddwy noson. Nosweithiau llawn bwrlwm, sgyrsiau am y gorffennol, caneuon, hanesion am sut mae Duw yn gweithio ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru heddiw a dwy bregeth gan Andy Ollerton ar hanes Gideon. Cawsom ein hatgoffa bod Duw yn defnyddio pobl di-bwys, gwan, llawn ofn fel Gideon i ennill cenedl yn ôl ato Ef. Dim ond i ni gamu allan mewn dewrder, undod a ffydd gallwn ninnau ein defnyddio gan Dduw i newid Cymru – i weld hen ac ifanc yn troi at Dduw o’r newydd ac yn rhoi eu calonnau’n llwyr iddo.
Felly diolch i ti Arglwydd am ddefnyddio gwaith Souled Out i fy achub i ac am fendithio Souled Out ar hyd y blynyddoedd. Ti’n Dduw mor ffyddlon a ’dan ni’n edrych ymlaen i weld sut ti’n mynd i ddefnyddio ni yn yr 20 mlynedd nesaf i ddod a chlod i dy Enw perffaith di yn ein gwlad fach hyfryd ni. Amen.