
Joseff
Mae Souled Out wedi bod yn uchafbwynt fy mlwyddyn ers amser ac roeddwn i mor hapus fod 2020 ddim yn wahanol.
Gwnaeth Duw wir ddefnyddio dwy noson Souled Out 20 i ail-gynnau’r brwdfrydedd a’r fflam yn fy enaid. Erbyn mis Awst, mi roeddwn i wedi ‘gor-arfer’ hefo’r lockdown ac roedd bod i ffwrdd o ffrindiau a’r eglwys yn cael effaith ddrwg – roeddwn i’n teimlo fy mod yn dechrau rhedeg allan o stêm. Ond rhoddodd Souled Out y cyfle i lawer ddod at ei gilydd fel cymuned unwaith eto. Yn ystod y ddwy noson, cafwyd negeseuon o anogaeth, mawl, sgwrs, grwpiau bach, gweddi ac amser i gymdeithasu. Andy Ollerton rhannodd yn y prif sgyrsiau ar stori Gideon, yn ffocysu ar sut wnaeth Duw godi arwr annhebygol ac hefyd byddin annhebygol o argyhoeddiad, undod a ffydd dros ddaioni. Cawsom ein hannog fod Duw dal ar waith heddiw ac i ni hefyd uno ar gyfer gwaith Duw o rannu ei gariad a’i newyddion da yn ein byd heddiw. Cefais fy nghalonogi gan y neges yma ac fy atgoffa mai nerth Duw sydd yn ein cynnal ni i wneud y fath beth, nid nerth ein hunain.
Roedd lockdown yn amser digon unig ar adegau, felly’r grwpiau bach gafodd yr effaith fwyaf arnaf. Roedd hi mor dda medru casglu at ein gilydd, dros Zoom, fel grŵp o ffrindiau hen a newydd a chawsom y cyfle i annog, sgwrsio a gweddïo gyda’n gilydd. Mae cerdded gyda Iesu cymaint haws pan rydych yn cael eich hannog gan eraill. Trwy’r grwpiau hyn, profais y perthynas agos o fod yn rhan o deulu Duw unwaith eto.
Daeth Souled Out 20 ar yr adeg iawn. Credaf fod Duw wedi defnyddio Souled Out eleni i fy annog ac i adnewyddu fy mherthynas gydag ef. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli fod yr awch a chariad yn fy enaid wedi lleihau gymaint nes i Dduw adnewyddu fflam fy enaid, trwy Souled Out; fflam i ddal ati yn llawen, i gario ’mlaen i ddod i ’nabod Duw yn well ac i adael iddo arwain fy mywyd.