
SOULED OUT 16 gan Mared
Eleni eto roedd yn gymaint o bleser cael dod ynghyd gyda chymaint o Gristnogion ifanc eraill yn Souled Out. Fel un o uchafbwyntiau’r haf, mae’n anhygoel gweld dros 120 o bobl yn dod at ei gilydd am 5 noson i foli’r Arglwydd, i ddysgu, cael eu llenwi hefo’r Ysbryd Glan a hyd yn oed profi cariad Duw am y tro cyntaf. Wrth gwrs tydi o ddim yn Souled Out heb y llu o weithgareddau sydd ymlaen rhwng y prif sesiynau fel y pnawn inflatables, gemau ‘Clash y Claniau’, caffi acwstig, s’mores wrth y lle tân a phwy all anghofio’r gêm flynyddol o bêl-droed! Ar ben hyn i gyd roedd amryw o seminarau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos, yn cynnwys pynciau fel trosolwg o’r Beibl, tlodi ac anghyfiawnder, sut i arwain addoliad, efengylu naturiol, yn ogystal â seminarau penodol i ferched a bechgyn.
‘Cenhedlaeth Lladd Cewri’ oedd thema’r prif sesiynau eleni. Mae gymaint o hanesion y Beibl yn son am gewri, felly edrychom ni ar beth oedd y cewri gwahanol yn ein bywydau ni. Er bod y cewri yma’n gallu gwneud i ni deimlo’n fach a gwan iawn, roedd yn wych cofio fod Duw yn gymaint mwy! Mae Iesu wedi ennill y fuddugoliaeth yn erbyn y gelyn mwyaf ac mae’n pasio’r fuddugoliaeth yna ymlaen i ni yn ei Enw ef, felly da ni wedi’n harfogi i gwffio yn ôl yn erbyn ein cewri personol.
Cefais gymaint o fendith, yn arbennig yn yr addoliad flwyddyn yma. Roedd yr Ysbryd yn bresennol mewn nerth a doedd dim gwadu bod Duw ar waith yn Neuadd Buddug, Y Bala. Roedd mor braf cael bod yn yr awyrgylch Gristnogol yna am wythnos, ond fel cafodd ei ddweud yn un o’r sesiynau, mae digwyddiad fel Souled Out fel petai yn ‘field hospital’ lle rydym yn mynd i gael ein hadnewyddu, ond allwn ni ddim aros yn y ‘bybl Cristnogol’ yma, oherwydd er mwyn i’r deyrnas dyfu, mae rhaid i ni fynd allan i adlewyrchu Iesu i bobl eraill.
Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i ddod yn ôl i Souled Out yn 2017 a gweld sut mae Duw wedi bod yn defnyddio ei bobl ar draws Cymru.