buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

Twm

Ers i mi ddechrau sleifio i mewn i’r pregethau pan oeddwn i’n 14, mae Souled Out wedi bod yn uchafbwynt pob haf, ac er bod rhaid iddo fod ar-lein eleni, roeddwn i’n sicr y byddai’n uchafbwynt eto. Roedd y ffrydiau byw dros y ddau ddiwrnod yn wych – gyda Delyth a Jos ar y diwrnod cyntaf, ac wedyn Megi a Gwil yr ail ddiwrnod, yn gyflwynwyr gwych a oedd yn llwyddo i gadw ‘hype’ a chyffro Souled Out yn fyw trwy gyfrwng y we! ’Nes i rili mwynhau addoliad y ddau ddiwrnod wedi’u harwain gan Cadi Gwyn ac yna Rhys Hughes; roedd yn f’atgoffa o’r fendith o’n ni’n ei gael yn addoli yn y cnawd, ac yn gneud i mi edrych ‘mlaen at y cyfle nesa i wneud hynny!

Heb os, y fendith fwyaf oedd y pregethau. Ro’dd y cyfweliad gyda Siôn yn ysbrydoliaeth ynghyd â phregeth Dai Hankey, gyda’i bwynt arbennig: “the more mercy you know you’ve received, the more thankful you are” yn sefyll allan i fi. Roedd y cyfweliad gyda Mike Pilavachi, yn benodol ei bwynt am ‘moutain tops and valleys’, ac yna pregeth Rhys Llwyd, yn enwedig y pwynt am yr angen i ddangos effaith atgyfodiad Iesu yn ein bywydau ni, yn wych i mi ddysgu sut i dyfu yn fy ffydd bersonol. Roedd y cyfweliad gyda’r Ollertons a’u neges o BLESS (begin in prayer, listen, eat, serve, share) a chyfweliad Lois Franks yn wych am ddangos ffyrdd ymarferol o rannu cariad Iesu ag eraill. Roedd hi’n pwysleisio: focus, friendship and faith wrth efengylu.

Fy hoff ran o Souled out eleni oedd y fideo’n llawn o dystiolaeth gan nifer o fynychwyr Souled Out, cyn cân wych Cadi, ‘Gwaredwr’. Roedd e’n bwerus iawn a jyst yn neud i mi fod eisiau gweld pawb eto. Fel dywedodd Cameron yn y fideo, ’dan ni’n deulu yn Souled Out, a nath y fideo bwysleisio hynny i mi. Ro’dd e’n wych felly cael mynd wedyn i’r grwpiau bach a threulio amser gyda phawb, ac wrth gwrs roedd y gweithgareddau ychwanegol gyda Megi, Elen, Jos a Gareth, yn llawn hwyl!

Roedd Souled Out eleni yn ddwy noson o fendith, ac fe wnaeth Duw wir ei ddefnyddio i fy mharatoi’n ysbrydol ar gyfer y brifysgol y flwyddyn nesa: fy mharatoi i ffynnu yn fy ffydd i fy hun, i rannu gair Duw ag eraill, ac i fynd trwy amseroedd anodd yn ffyddiog bod Duw gyda fi. Ac ar ddiwedd y flwyddyn bydd Souled Out gwych i mi edrych ymlaen ato eto!

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube