buy steroids in uk

steroids uk

Portfolio

Rhodri ac Elin

Nes i wir fwynhau’r sesiynau ‘Zoom trwy Rhufeiniaid’ dros y misoedd dwytha. Gyda Covid yn stopio ni allu cyfarfod â phobl mewn person, roedd cael cymdeithas efo ffrindiau a chyd-Gristnogion yn grêt. Roedd cael cysondeb o fewn y grŵp bach yn helpu i adeiladu ar y trafodaethau o sesiwn i sesiwn, gyda chwestiynau oedd yn ein herio i fod yn onest ac yn ymarferol yn ein ymateb. Roedd yna lot o bethau da, a’r grŵp bach yn un uchafbwynt, ond dwi wastad wrth fy modd efo sut mae Andy yn llwyddo i egluro rhai syniadau cymhleth o Rhufeiniaid mewn ffordd mor glir a syml. Mae hi mor hawdd i fi fynd yn ‘passive’ neu’n llugoer yn fy ffydd, felly mae cael fy herio i newid i fod mwy fel Iesu ac i wneud gwahaniaeth dros yr efengyl, wastad yn dda.

Rhodri Jones

Roedd y sesiynau ‘Zoom trwy Rhufeiniaid’ yn fendithiol iawn. Mae gan Andy y ddawn arbennig o ddod â gwirionedd y Beibl yn fyw mewn ffordd hawdd i’w ddeall. Rhoddodd y sesiynau ddealltwriaeth gwell i mi o gefndir, cyd-destun a neges llyfr Rhufeiniaid ac roeddwn i’n teimlo wedi fy annog a fy herio i gamu allan mwy yn fy ffydd. Roeddwn i’n gwerthfawrogi cael amser mewn grwpiau bach yn ystod pob sesiwn er mwyn trafod yn ddyfnach, dysgu gan eraill ac annog ein gilydd yn ein taith gyda’r Iesu. Roedd hi hefyd mor braf cael mwynhau cymdeithasu yng nghwmni ein gilydd fel grŵp eto, hyd yn oed dros sgrîn! Diolch o galon i Andy ac i bawb oedd yn rhan o’r trefnu.

Elin Wallace

 

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube